Mae un o brif ffyrdd yr Eidal wedi bod ynghau, wedi i ddamwain achosi tân mawr.

Fe gafodd chwech o bobol eu lladd yn y gwrthdrawiad ar yr A21 yng ngogledd y wlad neithiwr – ac mae mwg trwchus, du, yn yr awyr.

Roedd pump o’r meirw yn teithio yn yr un car, a dau ohonyn nhw’n blant. Gyrrwr lori oedd y chweched.

Yn y digwyddiad, roedd lori’n cario tywod wedi mynd i mewn i gefn car oedd yn teithio o’i blaen, cyn i hwnnw yn ei dro fynd ar ei ben i mewn i dancer oedd yn cario hylif fflamychol.

Fe aeth y tancer ar dân yn syth, gan anfon mwg du i’r awyr a oedd yn weladwy am filltiroedd.