Mae De Corea wedi cynnig cynnal trafodaethau “dwys” gyda Gogledd Corea, a hynny er mwyn darganfod sut y gall y ddwy wlad gydweithio yng ngemau Olympaidd y Gaeaf sy’n cael eu cynnal yn PyeongChang fis nesaf.

Daw’r cynnig hwn gan Dde Corea wedi i Kim Jong Un, arweinydd Gogledd Corea, ddatgan yn ei anerchiad ar gyfer y flwyddyn newydd ddoe y byddai’n fodlon anfon cynrychiolwyr o’r wlad i’r gemau.

Er hyn, yn yr un anerchiad, fe barhaodd i fygwth yr Unol Daleithiau gydag ymosodiadau niwclear, gan gyfeirio at ffaith fod ganddo “fotwm niwcelar” ar ddesg ei swyddfa, a bod holl diriogaeth y wlad o “fewn gafael” ei fomiau.

Gwella’r berthynas 

O ran y cyfeiriad at y Gemau Olympaidd wedyn, mae arbenigwyr yn credu bod hyn yn ymgais i wanhau’r berthynas rhwng De Corea a’r Unol Daleithiau, wrth i’r wlad geisio liniaru pwysau’r sancsiynau rhyngwladol syddd yn ei herbyn.

Er hyn, mae llywodraeth ryddfrydol De Corea wedi croesawu’r neges hon gan Kim Jong Un, ac yn ei weld fel modd o wella’r berthynas sy’n bodoli rhwng y ddwy wlad.

Maen nhw felly yn cynnig y dylai arweinwyr y ddwy wlad gwrdd ar Ionawr 9 ym mhentref Panmunjom, sydd wedi’i leoli ar y ffin, i drafod y posiblrwydd o gydweithio.

Ond nid yw Gogledd Corea wedi ymateb eto.