Mae senedd Israel wedi pasio deddf sy’n gofyn am “uwchfwyafrif” er mwyn rhannu dinas Jerwsalem.

Bwriad y gyfraith ydi gwneud yn siwr na fyddai’r ddinas – sy’n cael ei hystyried yn safle sanctaidd gan dair o brif grefyddau’r byd – byth yn cael ei rhannu fel rhan o fargen i adfer heddwch yn y Dwyrain Canol.

Mae’r gwelliant yn rhwystro llywodraeth Israel rhag ildio sofraniaeth tros unrhyw ran o Jerwsalem heb i 80 allan o 120 o aelodau’r Knesset gytuno i hynny.

Mae hi’n bosib, fodd bynnag, i’r ddeddf ei hun gael ei throi ar ei phen gyda mwyafrif cyffredin – sy’n ei gwneud yn ddedf symbolaidd yn fwy na dim.

Fe ddaeth y gwelliant gerbron y senedd oherwydd y tensiwn yn dilyn datganiad Donald Trump, arlywydd yr Unol Daleithiau, mai Jerwsalem yw prifddinas Israel.

Mae’r datganiad wedi cythruddo Palesteiniaid, sydd am weld dwyrain y ddinas yn brifddinas ar y wladwriaeth rydd y maen nhw’n galw am ei sefydlu.