Mae o leiaf 12 o bobol wedi cael eu lladd mewn protestiadau yn Iran, ac mae adroddiadau bod protestwyr arfog wedi ceisio meddiannu gorsafoedd yr heddlu a safleoedd milwrol.
Fe ddechreuodd y protestiadau ddydd Iau diwethaf yn Mashhad oherwydd materion economaidd ond mae’r protestiadau bellach wedi lledu i nifer o ddinasoedd.
Mae cannoedd o bobol wedi cael eu harestio.
Yn ôl adroddiadau ar orsaf deledu’r wlad, cafodd 10 o bobol eu lladd yn ystod gwrthdaro nos Sul.
Cafodd dau o brotestwyr hefyd eu lladd mewn protest yng ngorllewin Iran yn hwyr ddydd Sadwrn.
Mae Iran wedi atal mynediad at Instagram a’r ap Telegram sydd wedi cael eu defnyddio i drefnu’r protestiadau.
Mae’r Arlywydd Hassan Rouhani wedi cydnabod dicter y cyhoedd oherwydd yr economi gwael ond mae wedi rhybuddio y bydd y llywodraeth yn gweithredu yn erbyn y rhai hynny sy’n cael eu hystyried o fod yn torri’r gyfraith.