Mae 12 o bobol wedi marw mewn tân mewn bloc o fflatiau yn Efrog Newydd.
Fe ddechreuodd y tân mewn adeilad pum llawr yn y Bronx toc cyn 7yh nos Iau, Rhagfyr 28.
Mae plentyn blwydd oed ymhlith y meirw.
Yn ôl maer y ddinas, Bill de Blasio, mae tua 15 o drigolion eraill a oedd yn y fflatiau, mewn cyflwr difrifol yn yr ysbyty.
Fe fu tua 170 o ddiffoddwyr tân yn brwydro’r fflamau ac yn ceisio achub pobol yn yr adeilad.