Mae disgwyl i arweinydd gwrthblaid Rwsia, Alexei Navalny gyflwyno’i enw fel darpar ymgeisydd i herio Vladimir Putin am arlywyddiaeth y wlad.

Ond mae e wedi’i wahardd rhag sefyll oherwydd collfarn sy’n cael ei hystyried yn dacteg wleidyddol i warchod yr Arlywydd presennol.

Ond fe allai gael caniatâd arbennig i sefyll ar ôl i oddeutu 800 o bobol ymgasglu ar strydoedd Mosgo i ddangos eu cefnogaeth iddo.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i ddarpar ymgeiswyr gasglu 500 o enwau i’w cefnogi cyn bod modd iddyn nhw fynd ati i gasglu’r miliwn o lofnodion sydd eu hangen ar gyfer enwebiad swyddogol.

Y ras

Ar hyn o bryd, mae polau’n awgrymu bod 80% o Rwsiaid yn cefnogi Vladimir Putin yn y ras.

Ond fe fu Alexei Navalny yn ymgyrchu’n answyddogol ers blwyddyn i annog pobol mewn ardaloedd nad ydyn nhw’n ardaloedd gwleidyddol traddodiadol i bleidleisio.

Dywedodd Alexei Navalny “nad oes cefnogaeth ysgubol i’r awdurdodau”.

Serch hynny, mae lle i gredu na fydd e’n cael sefyll yn swyddogol ac mae e wedi galw ar ei gefnogwyr i gynnal boicot pe bai hynny’n digwydd.