Mae ymchwiliad ar y gweill yn Myanmar ar ôl i ddeg o gyrff gael eu canfod mewn bedd yn nhalaith Rakhine.

Yn y dalaith honno y mae’r lluoedd diogelwch wedi bod yn gweithredu’n dreisgar yn erbyn Mwslimiaid Rohingya.

Dydi hi ddim yn glir ar hyn o bryd os mai gweddillion pwy sydd wedi cael eu darganfod.

Mae mwy na 630,000 o lwyth y Rohingya wedi ffoi i Fangladesh ers Awst 25, sydd wedi arwain at yr argyfwng ffoaduriaid mwyaf yn Asia ers degawdau.

Mae’r Cenhedloedd Unedig a’r Unol Daleithiau wedi cyhuddo Myanmar o dorri rheolau hawliau dynol, gan gynnwys lladd, treisio a llosgi cartrefi Mwslimiaid Rohingya, ac o lanhau ethnig.

Marwolaethau

Yn ôl arolwg gan fudiad y Médecins Sans Frontières, cafodd o leiaf 6,700 o Fwslimiaid Rohingya eu lladd rhwng mis Awst a mis Medi eleni.

Y llywodraeth a’r fyddin sy’n cael y bai gan ymgyrchwyr am iddyn nhw wrthod ymchwilio i ymddygiad swyddogion y wlad.

Mae ymgyrchwyr yn galw ar y wlad i dderbyn cymorth grwpiau dyngarol, ond maen nhw wedi gwrthod hyd yn hyn.

Dywedodd y fyddin y bydden nhw’n dwyn achos yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol am y marwolaethau.