Mae’r Unol Daleithiau ar drothwy’r diwygiadau mwyaf i’r system drethi ers tri degawd.

Cafodd deddfwriaeth ei phasio gan y Senedd o 51-48, ac mae disgwyl cynhadledd i’r wasg yn ystod y dydd heddiw.

Doedd dim modd i Gyngres yr Unol Daleithiau dderbyn y ddeddfwriaeth ar y cam cyntaf gan fod gwallau yn y mesur, gan gynnwys ei deitl oedd yn groes i reolau’r Senedd.

Mae’r mesur, sy’n werth 1.5 triliwn o ddoleri i bwrs y wlad, yn cynnig toriadau mewn trethi i fusnesau a phobol gyfoethog, a chymorth i deuluoedd sy’n ennill cyflog canolig neu isel.

Ond mae disgwyl i’r ddeddfwriaeth gynyddu dyled y wlad er bod y Gweriniaethwyr yn dweud y bydd yn arwain at dwf economaidd.

Beirniadu

Mae’r Democratiaid wedi beirniadu’r ddeddfwriaeth, gan ddweud bod y Gweriniaethwyr yn cynnig rhoddion am ddim i gorfforaethau a phobol gyfoethog.

Ac maen nhw’n rhybuddio na fydd perchnogion busnesau’n cynnig rhagor o gyflog i’w gweithwyr er y toriadau i drethi.

Mae disgwyl i gyfradd y dreth incwm ostwng o 35% i 21%, a bydd y trothwy uchaf ar gyfer unigolion yn gostwng o 39.6% i 37%.

Mae disgwyl i’r Democratiaid ymgyrchu yn erbyn y ddeddfwriaeth ar gyfer etholiadau’r flwyddyn nesaf.