Mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu ymchwilio i drefniadau treth y cwmni IKEA yn yr Iseldiroedd.
Pryder y Comisiwn Ewropeaidd yw bod Llywodraeth yr Iseldiroedd wedi deddfu ar drethi mewn modd sydd yn ffafrio’r cwmni sydd a’i becnadlys yn Sweden.
Yn ôl y comisiynydd, Margrethe Vestager, ni ddylai llywodraethau Ewropeaidd ganiatáu i rai cwmnïau dalu llai o drethi na rhai eraill.
Bydd y Comisiwn yn “ymchwilio’n ofalus” i’r pryderon, meddai.
Mae’r Undeb Ewropeaidd wedi targedu cwmnïau dan amodau tebyg yn y gorffennol – mae Apple, Amazon a Starbucks ymysg y cwmnïau yma.