Mae’r Llydawr Francois Gabart wedi torri mwy na chwe niwrnod oddi ar y record ar gyfer taith un dyn o amgylch y byd mewn llong hwylio.

Fe gwblhaodd y daith mewn 42 niwrnod ac 16 awr, gan guro record flaenorol ei gydwladwr Thomas Coville y llynedd.

Cyrhaeddodd ben y daith oddi ar ynys Ouessant yn gynnar y bore ma.

Fe gafodd groeso adref yn Brest wrth gyrraedd y lan ar ôl gadael o’r fan honno ar Dachwedd 4.

Dywedodd fod y croeso a gafodd yn “bleser gwallgof”.