Mae Comisiwn wedi’i sefydlu yn Hollywood i ymchwilio i honiadau o gamymddwyn rhywiol o fewn y diwydiant ffilm.

Cynhyrchydd ffilmiau Star Wars, Kathleen Kennedy oedd wedi galw’r cyfarfod o fenywod yn y diwydiant.

Roedd cynrychiolwyr o bron bob stiwdio, rhwydwaith a label recordiau yn Hollywood yno, ynghyd ag undeb Motion Picture Arts and Sciences.

Anita Hill fydd yn cadeirio’r comisiwn. Roedd hi’n allweddol wrth ddod ag aflonyddu rhywiol i sylw’r cyhoedd yn 1991 wrth roi tystiolaeth am Clarence Thomas, ei bos yn y Goruchaf Lys, oedd wedi’i gyhuddo o aflonyddu rhywiol.