Mae cyn-Weinidog Economaidd Rwsia wedi cael ei garcharu am wyth mlynedd ar ôl ei gael yn euog o gael ei lwgrwobrwyo a derbyn dwy filiwn o ddoleri [£1.5m] gan un o brif bartneriaid yr Arlywydd, Vladimir Putin.

Mae achos llys Alexei Ulyukayev yn cael ei ystyried yn rhan o’r dadlau mewnol rhwng grwpiau yn y Kremlin.

Roedd Alexei Ulyukayev yn aelod blaenllaw o’r grŵp o dechnocratiaid rhyddfrydol yn y Cabinet, a’i elyn, Igor Sechin, yw un o’r cynrychiolwyr mwyaf dylanwadol yr ochr fwyaf ceidwadol o’r elît yn Rwsia.

Y gwleidydd 61 oed yw’r swyddog uchaf i gael ei arestio yn Rwsia ers dros ddau ddegawd ac mae’r achos wedi cael sylw mawr yn y wlad.