Mae disgwyl i blaid yr ANC ddechrau chwilio heddiw am arweinydd newydd i olynu Arlywydd De Affrica, Jacob Zuma.

Fe fydd y mater yn cael sylw yng nghynadledd y blaid ar ddiwedd ei ail dymor cythryblus, wrth i’r blaid geisio adennill tir.

Mae disgwyl i’r arweinydd newydd ddod yn Arlywydd ar ôl yr etholiad nesaf yn 2019.

Y ddau geffyl blaen ar gyfer yr arweinyddiaeth yw’r Dirprwy Arlywydd Cyril Ramaphosa a Nkosazana Dlamini-Zuma, cyn-wraig Jacob Zuma.

Rhwystredig

Mae aelodau’r ANC, plaid y cyn-Arlywydd Nelson Mandela, yn teimlo’n rhwystredig ar ôl blynyddoedd o sgandalau a llygredd.

Fe fu’r blaid wrth y llyw ers i Dde Affrica ddod â chyfnod aparteid i ben yn 1994.

Ond mae pryderon bellach y gallai gael ei gorfodi i glymbleidio am y tro cyntaf erioed, a’r naill ymgeisydd na’r llall yn ddigon cryf i oresgyn trafferthion y wlad heb gymorth.

Ac mae dyfalu y gallai anghydfod o fewn y blaid ynghylch y ffordd ymlaen arwain at sefydlu plaid newydd sbon i frwydro yn yr etholiad.

Dydy hi ddim yn glir ar hyn o bryd a fydd Jacob Zuma yn aros yn ei swydd tan 2019, neu’n cael ei orfodi i ymddiswyddo’n gynnar.

Cyfnod Jacob Zuma wrth y llyw

Ers i Jacob Zuma ddod i rym, mae 30% o boblogaeth De Affrica’n dioddef oherwydd diweithdra, ac mae twf economaidd ar i lawr.

Mae mwy na 55% o boblogaeth y wlad mewn tlodi.

Mae pryderon pe bai cyn-wraig Jacob Zuma yn cael ei hethol y byddai hi’n ei warchod rhag cael ei erlyn.

Cwympodd canran pleidleisiau’r blaid yn is na 60% am y tro cyntaf erioed yn yr etholiad diwethaf y llynedd.