Mae arweinydd newydd Zimbabwe wedi galw ar y gorllewin i ddod â sancsiynau yn erbyn y wlad i ben.

“Galwn am ddiwedd diamod i’r sancsiynau gwleidyddol ac economaidd sydd wedi efryddu ein datblygiad cenedlaethol,” meddai’r Arlywydd Emmerson Mnangagwa.

Daeth y sylwadau yn ystod cyfarfod pwyllgor canolog plaid Zanu-PF ym mhrifddinas Zimbabwe, Harare.

Mae’r Arlywydd newydd yn wynebu’r her o ddenu buddsoddiad tramor ac i adfer economi gwan y wlad.

Cafodd Emmerson Mnangagwa ei benodi mis diwethaf wedi i Robert Mugabe ymddiswyddo yn dilyn 37 blynedd mewn grym.