Mae adroddiad newydd wedi cyhuddo Ffrainc o ddarparu arfau i grŵp a fu’n rhan o drais hiliol yn Rwanda yn 1994.

Mae’r ddogfen hefyd yn cyhuddo swyddogion Ffrengig o fod wedi diogelu unigolion oedd yn gyfrifol am hil-laddiad ac o rwystro ymdrechion i ddod â’r unigolion yma gerbron llysoedd.

Llywodraeth Rwanda sydd wedi comisiynu’r adroddiad, a chwmni o’r Unol Daleithiau sy’n gyfrifol am ei ysgrifennu.

Mae’r ddogfen yn cynnig “crynodeb ddamniol o weithredoedd swyddogion Ffrengig” yn ôl Gweinidog Tramor Rwanda, Louise Mushikiwabo.