Mae Cyngres y Pilipinas wedi cymeradwyo blwyddyn arall o reolaeth filwrol yn ne’r wlad.

Er i fyddin Pilipinas oresgyn gwrthryfel gan grŵp brawychol yn ninas Marawi ym mis Hydref, mae awdurdodau’n pryderu bod gwrthryfelwyr yn parhau i fygwth ynys ddeheuol Mindanao.

Ond mae sawl gwleidydd o’r ardal wedi croesawu penderfyniad y Gyngres, gydag ambell un yn dadlau y bydd yn rhwystro ail wrthryfel yno.

Mae aelodau’r gwrthbleidiau wedi beirniadu’r penderfyniad gan ei alw’n anghyfansoddiadol, ddiangen ac yn fesur “eithafol”.

Mae rhai hefyd yn pryderu mai cam cyntaf yw hwn gan yr Arlywydd Rodrigo Duterte yn y broses o gyflwyno rheolaeth filwrol ledled y Pilipinas.