Mae ymgeisydd y Blaid Ddemocrataidd wedi cipio sedd seneddol Alabama gan guro’r Gweriniaethwr di-flewyn ar dafod, Roy Moore.

Dyma’r tro cyntaf i ymgeisydd seneddol Democrataidd fod yn fuddugol yn y dalaith hon ers chwarter canrif, ac mae’r canlyniad yn debygol o roi ergyd sylweddol i’r Gweriniaethwyr.

“Rydym wedi dangos i Alabama, a hefyd y byd, bod modd bod yn unedig,” meddai’r ymgeisydd buddugol Doug Jones.

Mae Roy Moore wedi ymateb trwy godi amheuaeth am y canlyniad gan nodi: “Nid dyma’r diwedd. Rydym ni’n gwybod bod Duw wrth y llyw o hyd.”

Yn sgil y bleidlais mae mwyafrif y Gweriniaethwyr yn y Senedd wedi lleihau – erbyn hyn mae yna 51 Gweriniaethwr a 49 Democrat.

Bydd Doug Jones yn olynu Jeff Sessions, wrth esgyn i’w rôl. Bydd ei gyfnod yn y swydd yn dod i ben ym mis Ionawr 2021.