Mae Arlywydd Rwsia, wedi ymweld â phencadlys milwrol yn Syria, gan ddatgan cynlluniau i dynnu milwyr Rwsia o’r wlad.

Dyma daith gyntaf Vladimir Putin â’r wlad, ac ef yw’r arweinydd rhyngwladol cyntaf i ymweld â Syria ers i’r rhyfel cartref ddechrau yno bron i 17 blynedd yn ôl.

Daw hyn yn dilyn cyhoeddiad gan Rwsia’r wythnos diwethaf, bod byddin Syria wedi llwyddo i drechu’r Wladwriaeth Islamaidd (IS) ac ail afael mewn grym dros ffin y wlad ag Irac.

Mewn araith i filwyr Rwsia mae Vladimir Putin wedi eu canmol am eu gwaith “penigamp” gan nodi: “Mae’r Famwlad yn falch ohonoch”.

Mae Arlywydd Syria, Bashar Assad, wedi diolch am “gyfraniad effeithlon” milwyr Rwsia, ac wedi dweud “na fyddwn yn anghofio”.

Er hyn i gyd, mae disgwyl i bresenoldeb milwrol Rwsia barhau ym mhencadlysoedd Hemeimeem a Tartus.