Mee dau aelod o fudiad Hamas wedi’u lladd gan gyrchoedd awyr gan Israel.

Mae byddin Israel wedi cadarnhau iddi dargedu pedair canolfan Hamas yn gynnar fore heddiw (dydd Sadwrn) er mwyn talu’r pwyth yn ôl am rocedi a gafodd eu tanio tua thref Sderot gan y Palesteiniaid. Fe gafodd nifer o bobol eu hanafu, ac fe achoswyd difrod mawr.

Fe gafodd warws a ffatri arfau eu targedu gan y cyrchoedd, ac mae Hamas yn dweud i ddau o’u haelodau gael eu lladd.

Dyma’r digwyddiad diweddara’ yn dilyn datganiad Donald Trump mai Jerwsalem yw prifddinas Israel.

Ddydd Gwener, fe aeth Palesteiniaid ben-ben â lluoedd Israel mewn nifer o lefydd ar y Lan Orllewinol ac ar ffin Gaza, pan gafodd dau arall eu lladd.