Mae gwyddonwyr yn bryderus ynglyn â’r weithgaredd seismig sy’n cael ei synhwyro yng nghyffiniau un o losgfynyddoedd mwya’ perglys Gwlad yr Iâ.
Mae llosgfynydd Oraefajokull wedi bod yn dawel ers bron i 300 mlynedd, ond mae lle i gredu y bydd yn ffrwydro yn y dyfodol agos – a hynny am y tro cyntaf ers 1727.
Mae Swyddfa Dywydd Gwlad yr Iâ wedi cofnodi 160 o ddaeargrynfeydd yn yr ardal yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
Yr hyn sy’n poeni gwyddonwyr yn fwy na dim, ydi’r effaith y gallai ffrwydriad Oraefajokull, 200 milltir o Reykjavik, gael effaith ar fannau eraill yn y byd.
Mae’r llosgfynydd yn gorwedd o dan rewlif Vatnajokull, y rhewlif hynaf yn Ewrop.
Pan ffrwydrodd y llosgfynydd yn 1362, roedd yn fwy pwerus na ffrwydriad Feswfiws a ddinistriodd ddinas Pompei yn 79OC.