Mae senedd Awstralia wedi pleidleisio o blaid caniatau priodasau un-rhyw.

Fe ddaw’r penderfyniad yn dilyn dadl chwerw a chyhoeddi canlyniadau arolwg gan y llywodraeth a oedd yn dangos fod pobol y wlad am weld newid.

Roedd ymateb swnllyd iawn yn yr oriel gyhoeddus yn Nhy’r Cynrychiolwyr pan gafodd y ddeddf ei phasio.

Mae’r gyfraith newydd yn newid y diffiniad o briodas, gan wrthod y syniad mai defod rhwng dyn a dynes ydyw. Mae’r geiriad newydd yn dweud mai “uniad rhwng dau unigolyn” ydi priodas.

Mae disgwyl i’r ddeddf ddod i rym ymhen mis, ac mae disgwyl i’r priodasau un-rhyw cyntaf gael eu cynnal ymhen deufis.