Mae arweinydd grwp Islamaidd, Hamas, wedi galw am wrthryfel newydd yn erbyn Israel, wedi i arlywydd yr Unol Daleithiau ddatgan mai prifddinas Israel ydi Jerwsalem.

Mae Ismail Haniyeh wedi bod yn annerch ei ddilynwyr yn Llain Gaza, ac wedi galw datganiad Donald Trump yn “ymosodiad” ar ei bobol ac yn “rhyfel yn erbyn ein dinasoedd noddfa”.

Fe ddylai’r gwrthryfel ddechrau ddydd Gwener – ar ddiwrnod sanctaidd y Mwslim – meddai wedyn.

“Mae angen i’r gwrthryfel bara a dal ati er mwyn dangos i Donald Trump mai camgymeriad oedd ei benderfyniad i gefnogi meddiannu Jerwsalem,” meddai Ismail Haniyeh.