Mae ysgolion a siopau ar gau yn ardal y Lan Orllewinol heddiw, wrth i Balesteiniaid brotestio yn erbyn cyhoeddiad Donald Trump mai Jerwsalem ydi prifddinas Israel.

Mae grwpiau gwleidyddol wedi galw ar i bobol orymdeithio yn yr ardal am hanner dydd heddiw (dydd Iau) yn erbyn y datganiad.

Fe ddaeth datagniad Donald Trump ddydd Mercher, gan fynd yn groes i bolisi Americanaidd sydd mewn lle ers degawdau. Cyn hyn, maen nhw wedi rhoi sicrwydd i Balesteiniaid y bydd dyfodol dinas Jerwsalem yn cael ei benderfynu mewn trafodaethau.

Mae’r Palesteiniaid am weld y ddinas sanctaidd, a gafodd ei chipio gan yr Israeliaid yn 1967, yn dod yn brifddinas iddyn nhw yn y dyfodol.

Trwy ddatgan Jerwsalem yn brifddinas Israel, mae Donald Trump yn cael ei weld yn ochri gydag Israel.