Mae heddlu yn Rio de Janeiro wedi dal un o werthwyr cyffuriau mwya’r wlad, a hynny wrth geisio targedu’r trais sydd ar gynnydd yno flwyddyn ers y Gemau Olympaidd.

Mae Rogerio Avelino da Silva wedi’i ddwyn i’r ddalfa wedi i blismyn ddod o hyd iddo yn cuddio dan ddillad gwely mewn ty mewn slym yng ngogledd Rio.

Roedden nhw wedi cynnal cyrch yn ardal Arara, gyda 3,000 o swyddogion a milwyr yn ceisio cael trefn ar y cwffio sydd wedi bod yn y ddinas yn ddiweddar.

Fe ddihangodd dau o warchodwyr Rogerio da Silva wrth iddo efo gael ei arestio.

Yn ol yr heddlu, roedd Rogerio da Silva wedi rhoi enw ffug ac wedi honni ei fod yn gefnder i’r ddynes oedd yn berchen y ty.