Mae gwleidydd o Hwngari wedi’i gyhuddo o ysbïo ar yr Undeb Ewropeaidd.

Yn ogystal â rhannu cyfrinachau, mae’r Aelod o Senedd Ewrop, Béla Kovàcs, hefyd wedi’i gyhuddo o dwyll gwerth 21,079 ewro (£18,630) yn ymwneud â chyflogi gweithwyr ym Mrwsel.

Dyw’r erlynwyr ddim wedi manylu ynglyn â pha wlad y maen nhw’n credu yr oedd y gwleidydd asgell-dde eithafol yn gweithio, ond maen nhw wedi dweud fod gwasanaeth cudd Hwngari “wedi dychryn” o ganfod faint o gysylltiad oedd rhyngddo â diplomyddion yn Rwsia, ac â’i ymweliadau misol â dinas Mosgow.

Mae Béla Kovàcs yn Aelod o Senedd Ewrop ers 2010. Cyn hynny, fe fu’n astudio ac yn gweithio yn Rwsia am rai blynyddoedd.

Mae wedi gwadu unrhyw gysylltiad â gwasanaethau cudd yn Hwngari ac unrhyw wlad dramor arall.

 

Mae tri o bobol eraill hefyd wedi’u cyhuddo yn yr achos o dwyll ariannol.