Mae arweinydd yr Eglwys Gatholig wedi galw am gadw’r status quo cyn belled ag y mae Jerwsalem yn y cwestiwn – ac mae’n galw ar i bobol ymarfer “doethineb a gofal” er mwyn osgoi gwrthdaro yn yr ardal.

Fe ddaeth yr apêl yn ei anerchiad wythnosol, wrth i arlywydd yr Unol Daleitiau, Donald Trump, fygwth cyhoeddi Jerwsalem yn brifddinas Israel.

Mae’r Pab yn dweud ei fod yn “gofidio’n fawr” am y datblygiadau diweddaraf hyn, ac mae wedi cyhoeddi bod Jerwsalem yn “lle unigryw a chysegredig” ar gyfer Cristnogion, Iddewon a Mwslimiaid. Mae gan Jerwsalem hefyd, meddai, “swyddogaeth arbennig o ran cynnal heddwch”.

“Dw i’n apelio ar i bawb barchu status quo y ddinas,” meddai Pab Ffransis.