Heddiw, mae disgwyl i arlywydd yr Unol Daleithiau gydnabod Jerwsalem yn brifddinas Israel – a hynny er bod gwrthwynebiad mawr o du’r Arabiaid, Mwslimiaid a gwledydd Ewrop.

Fe fyddai’n chwalu polisi sydd mewn grym ers degawdau gan yr Unol Daleithiau, ac fe allai achosi protestiadau treisgar.

Trwy ddechrau ar y broses o symud llysgenhadaeth America o ddinas Tel Aviv i Jerwsalem, mae Donald Trump yn dweud y bydd yn cydnabod “realiti hanesyddol a chyfredol”. Mae’r rhan fwya’ asiantaethau llywodraeth a senedd Israel yn Jerwsalem yn hytrach na Tel Aviv.

 

Cyn hyn, dydi’r Unol Daleithiau erioed wedi cefnogi honiad y wladwriaeth Iddewig bod ganddi unrhyw afael ar Jerwsalem, ac mae wedi mynnu mai trwy drafod gyda’r Palesteiniaid y byddai dod i unrhyw gytundeb.