Mae barnwr yn Sbaen wedi diddymu gwarant i arestio cyn-arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont.

Ar hyn o bryd, mae Carles Puigdemont a phedwar cyn-aelod o’i gabinet ar ffo yng Ngwlad Belg, ac yn wynebu cael eu hestraddodi yn ôl i Sbaen.

Mae gwarantau’r aelodau cabinet hefyd wedi cael eu diddymu.

Yn ôl y barnwr o Sbaen oedd wrth wraidd y penderfyniad, mae’r gwleidyddion wedi “cyfleu eu bwriad i ddychwelyd i Sbaen” trwy ymrwymo i sefyll yn etholiad Catalwnia ar ddiwedd y mis.

Carles Puigdemont fydd yn arwain ymgyrch ei blaid yn ystod etholiad Rhagfyr 21.

Mae awdurdodau yn ystyried cyhuddo’r pum gwleidydd o annog gwrthryfel, ymysg troseddau eraill. Gallan nhw gael eu carcharu am ddegawdau yn Sbaen os fyddan nhw’n cael eu barnu’n euog.