Mae rhai o wleidyddion Catalwnia yn aros i glywed heddiw a fyddan nhw’n cael eu rhyddhau o’r carchar gan lys yn Sbaen.
Cafodd y gwleidyddion eu carcharu fis diwethaf am eu datganiad o annibyniaeth ac mae’r rhan fwyaf wedi’u cyhuddo o wrthryfela, annog gwrthryfel a chamddefnyddio arian cyhoeddus.
Ymhlith y carcharorion mae cyn-Ddirprwy Arlywydd Catalwnia Oriol Junqueras, saith gweinidog llywodraeth Catalwnia ac arweinwyr dwy gymdeithas o blaid annibyniaeth.
Yn y cyfamser mae arweinydd Catalwnia, Carles Puigdemont, a rhai o arweinwyr eraill yn parhau i gael lloches yng Ngwlad Belg, ond maen nhw’n wynebu cael eu hestraddodi i Sbaen lle byddan nhw’n wynebu cyhuddiadau.
Daw hyn wrth i’r tensiynau ddwysau ar drothwy’r etholiad yno ar Ragfyr 21.