Mae’r heddlu yn Tanzania wedi arestio un o ddwy ddynes sydd i’w gweld yn cusanu mewn fideo sydd wedi cael ei rannu’n helaeth ar y we.
Cafodd y ddynes ei harestio yn ardal Geita yng ngogledd-orllewin y wlad.
Mae’r heddlu bellach yn chwilio am y ddynes arall yn y fideo, yn ogystal â nifer o unigolion eraill.
Dywedodd llefarydd ar ran yr heddlu mai eu bwriad yw “diddymu’r holl gadwyn o bobol sydd ynghlwm neu sy’n cefnogi gwrywgydiaeth”, a hynny “er lles y cenedlaethau”.
Mae gwrywgydiaeth yn anghyfreithlon yn Tanzania, a gall pobol gael eu carcharu am oes.