Mae Llywodraeth Awstralia wedi cyhoeddi ymchwiliad brenhinol i gamddefnydd arian gan fanciau a gwasanaethau ariannol y wlad.

Daw’r penderfyniad yn sgil cyfres o sgandalau yn niwydiant ariannol Awstralia, ac oherwydd pwysau gwleidyddol gan y brif wrthblaid.

Mae Prif Weinidog Awstralia, Malcolm Turnbull, yn dweud mai nod yr ymchwiliad yw sicrhau bod y diwydiant yn “gweithio’n effeithlon ac effeithiol”.

Ac mae wedi mynnu na fyddan nhw’n “gosod cyfalafiaeth ar brawf”.