Mae yna adroddiadau bod dyn wedi marw ar ôl yfed gwenwyn mewn achos llys dan ofal y Cenhedloedd Unedig.

Wedi i feirniaid gadarnhau dedfryd carchar 20 blynedd o hyd, mi wnaeth Slobodan Praljak, 72, yfed o botel gan honni ei fod wedi llyncu gwenwyn.

Cafodd ei farnu’n euog am droseddau rhyfel yn gysylltiedig â’i gyfraniad mewn ymgyrch filwrol gwrth-Fwslemaidd ym Mosnia yn yr 1990au.

Mae awdurdodau wedi gwrthod cadarnhau’r honiadau. Daw’r adroddiadau o’i farwolaeth o wasg Croatia.