Mae cyn-Ysgrifennydd Cymru, a gafodd ei fagu yn Ne Affrica, wedi dweud ei fod yn gobeithio y daw democratiaeth i Zimbabwe yn dilyn penodi’r arlywydd newydd, Emmerson Mnangagwa, heddiw.

Yn ôl Peter Hain, amser a ddengys a fydd cyn-gyfaill, Robert Mugabe, yn gwneud newidiadau sylfaenol i’r wlad ac yn gadael i etholiadau ddigwydd mewn ffordd deg.

Bu’n rhaid i Robert Mugabe ymddiswyddo fel arlywydd y wlad yr wythnos hon ar ôl bod wrth y llyw am 37 o flynyddoedd.

Bu Peter Hain yn byw yn Ne Affrica, y wlad sy’n ffinio â Zimbabwe, cyn symud i Loegr pan oedd yn 16 oed ac mae wedi cwrdd â Robert Mugabe pan fu’n Weinidog Affrica dros Brydain yn 1999.

Prawf yr etholiad nesa’

“Dw i’n meddwl ei fod yn bositif iawn bod Mugabe wedi mynd ond dylai gael ei weld fel mwy o newid yn yr elît sy’n rheoli yn hytrach nag unrhyw newid sylfaenol,” meddai wrth golwg360.

“Rhaid aros i weld a fydd yr arlywydd newydd, Emmerson Mnangagwa, wir yn gwneud y newidiadau angenrheidiol i greu cymdeithas fwy agored yn yr hyn sydd wedi bod yn wladwriaeth un blaid unbenaethol.

“Hyd yma, mae e’n gwneud y synau da i gyd, ond bydd y prawf go-iawn yn dod pryd bynnag fydd yr etholiad nesaf.

“Mae disgwyl etholiad erbyn diwedd mis Mehefin, mis Gorffennaf ar yr hwyraf, felly dw i’n meddwl mai hwnnw fydd y prawf iddo.

“Mae’r bobol eisiau newid, mewn etholiadau maen nhw [y blaid Zanu-PF sy’n llywodraethu] wastad wedi blocio hynny drwy fygwth a thrais a bygwth yr wrthblaid.

“Yr enghraifft fwyaf nodedig oedd yn 2008 pan wnaeth yr wrthblaid ennill y rownd gyntaf o’r etholiad, ac fe wnaeth Mnangagwa, dan orchymyn Mugabe, ddechrau cyfnod o ddychryn nes gwrthododd arweinydd yr wrthblaid gystadlu yn yr ail rownd, achos cafodd cymaint o bobol eu lladd.”

Y wlad yn “symud ymlaen” heb Mugabe

Yn ôl Peter Hain, “does dim llawer o ots” nad oedd Robert Mugabe yn seremoni urddo Emmerson Mnangagwa heddiw.

“Doeddwn i ddim yn disgwyl iddo fod yno, yn amlwg mae bargen wedi’i tharo lle mae e wedi cael rhyw fath o ryddid.

“Dw i ddim yn erbyn hynny achos er gwaetha’r ffaith ei fod wedi bod yn unben erchyll, hollol lwfr, gyda gwaed ar ei ddwylo, weithiau’r pris o gael gwared ar rai pobol yw eich bod chi’n eu diogelu nhw achos fel arall, dydyn nhw ddim yn mynd.

“Doedd e ddim yn syndod nad oedd e yno a dw i ddim yn credu bod llawer o ots i ddweud y gwir, mae’r wlad yn symud ymlaen hebddo.”