Mae Goruwch Lys Apêl De Affrica wedi dyblu dedfryd Oscar Pistorius am lofruddio ei gariad.

Bydd y pencampwr paralympaidd 31 oed yn treulio 13 o flynyddoedd a phum mis dan glo.

Roedd yr erlynwyr wedi apelio yn erbyn y ddedfryd wreiddiol o chwe blynedd am saethu Reeva Steenkamp sawl gwaith yn eu cartref yn 2013.

15 mlynedd yw’r ddedfryd am lofruddio, ond fe gafodd dedfryd Pistorius 13 o flynyddoedd  a phum mis oherwydd ei fod eisoes wedi treulio cyfnod yn gaeth.