Mae arweinwyr Burma a Bangladesh wedi arwyddo cytundeb i dderbyn ffoaduriaid sydd wedi ffoi i Bangladesh yn ôl i Burma.

Ers mis Awst mae mwy na 600,000 o bobol wedi ffoi’r trais yn nhalaith Rakhine a’r rhan fwyaf o’r rheiny’n Fwslimiaid Rohingya.

Er nad yw’r cytundeb yn ymhelaethu ar faint o’r ffoaduriaid fydd yn dychwelyd i Burma mae disgwyl iddyn nhw ddechrau dychwelyd ymhen mis neu ddau.

Mae swyddfa’r arweinydd Aung San Suu Kyi wedi dweud fod y cytundeb wedi’i arwyddo gan swyddogion y cabinet ym mhrifddinas Burma, Naypyitaw.

“Fy ngalwad i yw i Myanmar ddechrau cymryd yn ôl eu dinasyddion yn Bangladesh,” meddai Sheikh Hasina, Prif Weinidog Bangladesh.

Mae Rex Tillerson, Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau wedi beirniadu’r trais yn erbyn Mwslimiaid Rohingya gan ddweud ei fod yn gyfystyr â “glanhau ethnig,” ac fe allai hyn ddod â phwysau newydd arnyn nhw i gyflwyno sancsiynau ar y wlad.