Mae Marine Le Pen, pennaeth y Ffrynt Cenedlaethol yn Ffrainc, yn dweud fod y banc Societe Generale wedi cau cyfrifon ei phlaid – ac mae’n dweud fod hynny’n gyfystyr â chyhoeddi “ffatwa ariannol” gyda’r bwriad o fygu’r blaid.

Mae’n honni mai cam cwbwl wleidyddol ydi’r penderfyniad, a’i fod yn peryglu’r broses ddemocrataidd yn Ffrainc.

Mae hi’n bwriadu cyflwyno cwyn swyddogol yn erbyn Societe Generale, un o fanciau mwyaf Ffrainc, yn ogystal ag yn erbyn HSBC, ei banc personol hi, sydd hefyd wedi ei chau allan.

Mae Societe Generale wedi cyhoeddi datganiad yn dweud mai “rhesymau yn ymwneud â bancio yn unig” sydd y tu ol i’r symudiad diweddaraf hwn. Dydi’r banc ddim yn rhoi rheswm tros gau cyfrif y blaid na chyfrifon cysylltiedig.