Mae llys y Cenhedloedd Unedig wedi dyfarnu cyn-bennaeth milwrol Serbiaid Bosnia yn euog o hil-laddiad a throseddau yn erbyn y ddynoliaeth, ac wedi’i ddedfrydu i oes yng ngharchar am ei weithredoedd yn ystod rhyfel 1992-95 Bosnia.

Mae’r llys yn yr Hâg wedi ei gael yn euog o ddeg allan o’r 11 o gyhuddiadau yn ei erbyn, ac mae’n ddiweddglo dramatig i’r ymdrech i geisio cyfiawnder ar gyfer yr hyn gafodd ei gyflawni yn yr hen Iwgoslafia.

Y barnwr Alphons Orie ddarllenodd y dyfarniad, wedi iddo orfod gorchymyn Ratko Mladicead i adael yr ystafell oherwydd iddo weiddi allan.

Mae Ratko Mladic wedi’i gael yn euog o orchymyn milwyr oedd yn gyfrifol am rai o droseddau gwaethaf y rhyfel yn Sarajevo, ynghyd â hil-laddiad 8.000 o ddynion a bechgyn Mwslimaidd yn nhref Srebrenica.