Mae wyth aelod o Lywodraeth Catalwnia sydd bellach dan glo, wedi apelio ar Lys Cenedlaethol Sbaen i’w rhyddhau.

Cafodd y grŵp eu carcharu ar Dachwedd 3, mewn cysylltiad â chyhuddiadau o annog gwrthryfel trwy ymgyrch annibyniaeth Catalwnia.

Mae’r carcharorion yn dadlau nad ydyn nhw’n debygol o geisio ffoi, nac yn debygol o aildroseddu. Cafodd apêl flaenorol ei gwrthod gan farnwr ar Dachwedd 11.

Fe ymatebodd Llywodraeth Sbaen i ddatganiad annibyniaeth Catalwnia trwy ddiswyddo’u Llywodraeth, diddymu eu Senedd a thrwy alw am etholiadau rhanbarthol ar Ragfyr 21.

Mae disgwyl y bydd rhan fwyaf o gabinet yr Arlywydd, Carles Puigdemont, yn sefyll yn yr etholiad.