Mae tua hanner cant o bobol wedi’u lladd wedi i fom ffrwydro mewn mosg yng ngogledd Nigeria y bore yma.

 

Yn ôl llefarydd ar ran yr heddlu mae’r awdurdodau’n parhau i geisio canfod faint yn union o bobol sydd wedi’u hanafu am eu bod wedi’u cludo i wahanol ysbytai.

 

Mae lle i gredu fod person yn ei arddegau wedi tanio’r bom yn gynnar fore Mawrth yn nhalaith Adamawa yn Nigeria wrth i bobol gyrraedd ar gyfer eu gweddïau boreol.

 

Does dim cadarnhad eto beth sydd wrth wraidd yr ymosodiad ond mae amheuaeth y gallai fod yn gysylltiedig â’r grŵp eithafol Boko Haram sydd wedi’u sefydlu yn nhalaith gyfagos Borno.