Er i brif blaid Zimbabwe alw ar eu harweinydd i ymddiswyddo erbyn 10 bore heddiw, mae Robert Mugabe wedi gwrthod ildio’r awenau ac yn wynebu cael ei uchelgyhuddo.

O ganlyniad, mae Zimbabwe yn wynebu cyfnod estynedig o ansicrwydd.

Yn ôl aelodau plaid y ZANU-PF, ni fydd y broses uchelgyhuddo yn arwain yn syth at ei ddiswyddiad, ac fe allai gymryd rhai dyddiau i’w gwblhau.

Mae mudiadau yn Zimbabwe – gan gynnwys ymgyrchwyr y gwrthbleidiau – eisoes wedi datgan y byddan nhw’n parhau i gynnal protestiadau i annog yr Arlywydd, sy’n 93 oed, i ymddiswyddo.

Cyngres

Gwnaeth prif bwyllgor y ZANU-PF, gyhoeddi dros y penwythnos y byddai Robert Mugabe yn cael ei ddiswyddo o’i rôl yn arweinydd y blaid.

Ond, ymatebodd drwy ddarlledu araith ddydd Sul (Tachwedd 19), gan fynnu y byddai ef yn llywyddu cyngres y blaid fis nesaf – a hynny er gwaetha’r ffaith ei fod bellach heb rym.

Yn ystod y gyngres hon, mae disgwyl i’r blaid gadarnhau ei ddiswyddiad yn bennaeth ar y blaid, cyhoeddi enw ei olynydd a gwahardd  gwraig Robert Mugabe, Grace.