Mae Charles Manson, yr arweinydd cwlt a fu’n gyfrifol am drefnu llofruddiaethau saith o bobl yn Los Angeles yn 1969, wedi marw yn 83 oed.

Bu farw o achosion naturiol yn yr ysbyty yng Nghaliffornia ar ôl treulio bron i hanner canrif dan glo.

Yn ystod yr haf 1969 bu’n gyfrifol am drefnu llofruddiaethau’r actores feichiog Sharon Tate ynghyd a chwech o bobl gyfoethog eraill yn Los Angeles.

Er gwaetha’r dystiolaeth yn ei erbyn, roedd Charles Manson wedi mynnu ei fod yn ddieuog, gan roi’r bai ar gymdeithas.

Yn dilyn achos a barodd am bron i flwyddyn cafwyd Charles Manson a thri o’i ddilynwyr – Susan Atkins, Patricia Krenwinkel a Leslie Van Houten – yn euog o lofruddiaeth a’u dedfrydu i’r gosb eithaf.

Cafodd diffynnydd arall, Charles “Tex” Watson, ei ddedfrydu yn ddiweddarach. Yn dilyn penderfyniad y Goruchaf Lys yng Nghaliffornia i ddiddymu’r gosb eithaf yn 1972, fe gawson nhw ddedfryd o garchar am oes.