Mae’r canwr Morrissey wedi amddiffyn yr actor Kevin Spacey, gan ddweud bod yr honiadau am ei ymddygiad rhywiol yn “warthus” ac yn gyfystyr ag “ymosodiad diangen”.

Dywedodd fod y menywod sydd wedi gwneud honiadau am Harvey Weinstein hefyd yn “gwybod yn iawn beth oedd yn digwydd”, a’u bod nhw “wedi’u siomi”.

Mae Kevin Spacey wedi colli ei ran yn y ffilm All The Money In The World, fydd yn ymddangos ar y sgrîn fawr cyn diwedd y flwyddyn, ac fe fydd Christopher Plummer yn cymryd ei le mewn golygfeydd sydd wedi cael eu hailffilmio.

Honiadau

Mae’r actor Anthony Rapp yn honni bod Kevin Spacey wedi ei aflonyddu’n rhywiol pan oedd e’n fachgen 14 oed yn 1986.

Dywedodd fod yr actor “wedi dringo” ar ei ben ar y gwely yn dilyn parti yn ei fflat, ond mae Kevin Spacey wedi dweud nad yw’n cofio’r digwyddiad, ond wedi ymddiheuro.

Mewn cyfweliad ym mhapur newydd Der Spiegel yn yr Almaen, dywedodd Morrissey: “Dw i’n credu bod hyn yn warthus. Cyn belled ag ydw i’n gwybod, roedd e yn yr ystafell wely gyda rhywun 14 oed.

“Roedd Kevin Spacey yn 26, a’r bachgen yn 14. Yn yr achos hwnnw, rhaid i chi ofyn i chi eich hun lle’r oedd y rhieni?

 

 

“Rydych chi’n gofyn i chi eich hun a oedd y bachgen yn synhwyro’r hyn a allai ddigwydd.

“Dw i ddim yn gwybod sut mae pethau gyda chi, ond do’n i erioed wedi bod mewn sefyllfaoedd fel hyn pan o’n i’n ifanc. Byth.

“Ro’n i bob amser yn ymwybodol o’r hyn allai ddigwydd. Os ydych chi yn ystafell wely rhywun, rhaid i chi fod yn ymwybodol o le allai hynny arwain.

“Oherwydd hynny, dyw’r cyfan ddim yn ymddangos yn gredadwy iawn i fi. I fi, mae’n ymddangos fel pe bai ymosodiad diangen ar Spacey.”

Mae ymchwiliad ar y gweill hefyd i ymddygiad rhywiol Kevin Spacey pan oedd e’n gyfarwyddwr artistig yr Old Vic yn Llundain.

Mae 20 o bobol wedi gwneud honiadau yn ei erbyn yn y fan honno.

Harvey Weinstein

Wrth ymateb i’r honiadau yn erbyn y cyfarwyddwr ffilm Harvey Weinstein, ychwanegodd Morrissey: “Mae’r bobol yn gwybod yn union beth sy’n digwydd ac maen nhw’n chwarae’r gêm.

“Wedyn maen nhw’n teimlo embaras neu ddim yn ei hoffi.

“Yna, maen nhw’n dweud, “dw i wedi dioddef ymosodiad, dw i wedi fy synnu, ces i fy llusgo i’r ystafell’.

“Ond pe bai popeth wedi mynd yn iawn ac wedi hwyluso gyrfa wych, fydden nhw ddim yn siarad amdano.

“Dw i’n casáu treisio. Dw i’n casáu ymosodiadau rhywiol. Dw i’n casáu sefyllfaoedd rhywiol sy’n cael eu gorfodi ar rywun.”

‘Pawb yn euog’

“Ond mewn nifer o’r achosion hyn, rydych chi’n edrych ar yr amgylchiadau ac yn meddwl bod y person, sy’n cael ei alw’n ddioddefwr, yn syml wedi cael siom.

“Yn holl hanes cerddoriaeth a roc a rôl, fe fu cerddorion oedd yn cysgu gyda’u dilynwyr.

“Os ewch chi drwy hanes, mae bron pawb yn euog o gysgu gyda rhywun dan oed. Pam na wnawn ni eu taflu nhw i gyd yn y carchar?”