Mae adroddiadau bod Arlywydd Zimbabwe, Robert Mugabe wedi cael ei ddiswyddo o fod yn arweinydd ei blaid.

Roedd aelodau blaenllaw o’r blaid sydd mewn grym yn Zimbabwe wedi bod yn canmol yr ymdrechion i symud Robert Mugabe o’i swydd mewn cyfarfod brys.

Dywedodd Obert Mpofu fod aelodau o bwyllgor Zanu-PF yn cyfarfod “gyda chalon drom” oherwydd bod yr Arlywydd wedi bod yn llwyddiannus yn y gorffenol.

Ond fe rybuddiodd fod ei deulu “wedi manteisio” ar ba mor fregus yw e, a hynny er mwyn dwyn adnoddau’r wlad.

Fe allai Emmerson Mnangagwa, ei ddirprwy, ei olynu.

Fe fu’r arweinydd 93 oed dan glo yn ei gartref ers rhai dyddiau wrth i’r trafodaethau am ei ddyfodol gael eu cynnal.

Y cam nesaf

Fe allai senedd Zimbabwe benderfynu dwyn achos yn erbyn Robert Mugabe pan fyddan nhw’n cwrdd ddydd Mawrth.

Yn dilyn yr ymdrechion i ddod â’i gyfnod yn arweinydd i ben, mae’r fyddin yn wynebu cyhuddiadau o geisio cipio grym oddi arno fe.

 

Dydy union gynnwys y trafodaethau ddim wedi cael ei ddatgelu, ond fe fu’r fyddin yn pwyso arno i ymddiswyddo ers rhai dyddiau.

Roedd cyn-filwyr y wlad wedi mynegi pryder y gallai’r anghydfod arwain at frwydro ffyrnig rhwng y ddwy ochr pe na bai Robert Mugabe yn camu o’r neilltuo.

Mae disgwyl i etholiadau cenedlaethol gael eu cynnal y flwyddyn nesaf, a bydd sefyllfa Zimbabwe yn cael ei thrafod mewn uwchgynhadledd o wledydd Affrica ddydd Mawrth.