Mae gitarydd ac un o sylfaenwyr y band AC/DC, Malcolm Young wedi marw’n 64 oed ar ôl bod yn dioddef o ddementia.

Fe adawodd y band yn 2014 oherwydd ei salwch, ac fe gyhoeddodd y band ei farwolaeth ar eu gwefan heddiw.

Talodd y band deyrnged i’w “ymroddiad a’i ymrwymiad” iddyn nhw fel “gitarydd a chyfansoddwr a chanddo weledigaeth”.

Dywedon nhw ei fod yn “berffeithydd a dyn unigryw”.

Brodyr

Mae ei frawd Angus hefyd yn aelod o’r band, ac fe ddywedodd fod “y cwlwm oedd gennym yn unigryw ac arbennig iawn”.

 

 

Yn dilyn ei ymadawiad o’r band, cafodd ei le ei gymryd gan ei nai Steve ar gyfer y daith i hyrwyddo’r albwm Rock Or Bust yn 2014.

Mae’n gadael ei wraig Linda, ei blant Cara a Ross a thri o wyrion.

 

Fe fydd tudalen goffa iddo ar wefan y Sydney Morning Herald yr wythnos nesaf.