Mae Awstralia wedi pleidleisio tros gyfreithloni priodasau o’r un rhyw – gyda 61.6% o’i thrigolion o blaid.

Does dim gorfodaeth ar lywodraeth Awstralia i weithredu ar y canlyniad, ond mae prif weinidog y wlad, Malcolm Turnbull wedi dweud ei bod hi’n bryd gweithredu ar ddymuniad y bobol.

Roedd pob talaith o blaid.

“Mae Awstraliaid wedi pleidleisio tros degwch, maen nhw wedi pleidleisio tros ymrwymiad, maen nhw wedi pleidleisio tros gariad,” meddai Malcolm Turnbull.

“Nawr, mae yn ein dwylo ni yn Senedd Awstralia i fwrw ati, bwrw ati gyda’r gwaith mae pobol wedi gofyn i ni ei wneud, a’i wneud e eleni, cyn y Nadolig.

“Rhaid i ni ymrwymo i hynny.”

Lleiafrif yn erbyn

Wrth gyfeirio at y 38.4% a bleidleisiodd yn erbyn, pwysleisiodd Malcolm Turnbull fod Awstralia’n “wlad deg”.

“Does dim byd mwy Awstralaidd na thegwch a pharch at ein gilydd.”

Fe bleidleisiodd mwy o bobol (79.5%) na’r nifer o bobol a bleidleisiodd yn refferendwm Brexit ac etholiad arlywyddol diwetha’r Unol Daleithiau.

Dywedodd y seneddwr, Eric Abetz, un a bleidleisiodd yn erbyn, ei fod yn galw am gynnwys barn gwrthwynebwyr mewn unrhyw gyfreithiau yn y dyfodol.