Mae timau achub yn chwilio drwy weddillion adeiladau am oroeswyr yn dilyn daeargryn grymus ar y ffin rhwng Iran ac Irac sydd wedi lladd mwy na 430 o bobl.

Fe ddigwyddodd y daeargryn – a oedd yn mesur 7.3 – nos Sul (amser lleol Iran).

Yn ôl asiantaeth newyddion IRNA mae nifer y rhai a gafodd eu hanafu wedi cynyddu i 7,156 ac mae llywodraeth Iran wedi cyhoeddi diwrnod o alaru cenedlaethol.

Mae’n debyg bod mwy na hanner y rhai gafodd eu hanafu neu eu lladd o dref Sarpol-e-Zahab yn nhalaith orllewinol Iran, Kermanshah, ym Mynyddoedd Zagros sy’n rhannu’r ddwy wlad.

Bu difrod sylweddol i adeiladau yn y dref, gan gynnwys yr unig ysbyty yno, ac mae’r fyddin wedi sefydlu ysbytai dros dro.

Roedd trigolion wedi ffoi o’u cartrefi wrth i adeiladau ddymchwel ac mae miloedd yn parhau heb loches.

Mae’r Eidal yn anfon pebyll, blancedi a cheginau symudol i helpu’r dioddefwyr.