Mae mwy na 330 o bobol wedi cael eu lladd a tua 3,950 wedi’u hanafu yn dilyn daeargryn grymus ar y ffin rhwng Iran ac Irac, yn ôl adroddiadau o Iran.

Nid yw’r llywodraeth yn Baghdad wedi cadarnhau faint o bobol sydd wedi’u hanafu ond mae’r Prif Weinidog, Haider al-Abadi, wedi rhoi cyfarwyddyd i’r gwasanaethau brys i ymateb i’r trychineb.

Roedd y daeargryn yn mesur 7.3 ac wedi’i ganoli tua 19 milltir o ddinas ddwyreiniol Irac, Halabja.

Cafodd y daeargryn ei deimlo mor bell ag arfordir Mor y Canoldir ond mae’n ymddangos bod y difrod mwya’ wedi bod yn nhalaith Kermanshah yn Iran ym Mynyddoedd Zagros sy’n rhannu Iran ac Irac. Mae trigolion yr ardal yn dibynnu’n helaeth ar amaeth i wneud bywoliaeth.

Mae asiantaeth newyddion ILNA yn dweud bod o leiaf 14 o daleithiau yn Iran wedi’u heffeithio gan y daeargryn.

Mae adroddiadau hefyd bod o leiaf saith o bobl wedi marw yn Irac a mwy na 535 wedi’u hanafu yn nhalaith Sulaymaniyah a tua 150 yn nhref Khanaquin.