Mae Prif Weinidog Sbaen, Mariano Rajoy wedi annog trigolion Catalwnia i bleidleisio i sicrhau nad yw gwleidyddion o blaid annibyniaeth i Gatalwnia yn cael cadw eu seddi.

Fe fydd etholiad cyffredinol yn cael ei gynnal fis nesaf yn dilyn ymgais Catalwnia i drefnu refferendwm annibyniaeth, oedd wedi cael ei alw’n “anghyfreithlon” ac “anghyfansoddiadol” gan lywodraeth Sbaen.

Mae nifer o wleidyddion yn y carchar o hyd, ac mae Carles Puigdemont, arweinydd Catalwnia, wedi ffoi i Wlad Belg ynghyd â nifer o’i weinidogion.

‘Cyfnod newydd o normalrwydd’

Dywedodd Mariano Rajoy wrth aelodau ei Blaid Boblogaidd yn ninas Barcelona ei fod e “eisiau nifer uchel o bleidleiswyr i agor cyfnod newydd o normalrwydd”.

Hwn yw ei ymweliad cyntaf â’r ddinas ers i lywodraeth Sbaen ddefnyddio’u grym i ddiddymu llywodraeth Catalwnia a dychwelyd eu pwerau i ddinas Madrid.

Fe fydd etholiad cyffredinol ar Ragfyr 21.

Dywedodd Mariano Rajoy: “Mater brys yw dychwelyd i ymdeimlad o normalrwydd yng Nghatalwnia, a gwneud hynny cyn gynted â phosib er mwyn lleihau’r tensiwn cymdeithasol ac economaidd.”