Mae’r anghydfod yn parhau yn Awstralia dros ddeddf sydd yn rhwystro gwleidyddion rhag bod yn ddinasyddion mewn gwlad arall.
Gobaith Prif Weinidog y wlad, Malcolm Turnbull, yw gorfodi gwleidyddion i brofi nad ydyn nhw’n ddinasyddion mewn gwledydd eraill.
Mae Bill Shorten, arweinydd yr wrthblaid, yn anghytuno.
Mae’r ddeddf yn unigryw i Awstralia, ac ers cael ei chyflwyno 116 o flynyddoedd yn ôl, dim ond dau wleidydd sydd wedi colli eu swyddi o’i herwydd.
Dadl nifer yw bod y ddeddf yn amherthnasol yn yr unfed ganrif ar hugain, o ystyried bod hanner poblogaeth Awstralia yn fewnfudwyr neu gyda rhieni sydd yn fewnfudwyr.