Fe fydd chwe swyddog deddfu o Gatalwnia yn mynd gerbron barnwr yn Sbaen heddiw i ateb honiadau eu bod wedi anwybyddu’r Llys Cyfansoddiadol drwy ganiatáu i’r bleidlais ar annibyniaeth fynd rhagddi.

Mae llefarydd senedd Catalwnia, Carme Forcadell, a phum aelod arall o’r corff llywodraethu yn wynebu cyhuddiadau posib o rebelio, annog brad a lladrata.

Gallai’r chwech wynebu degawdau yn y carchar, a bydd barnwr o’r Goruchaf Lys yn penderfynu ar eu tynged ar ôl eu holi.

Mae Madrid wedi cipio grym oddi ar Gatalwnia yn fuan ar ôl iddi ddatgan annibyniaeth ar Hydref 27, ac mae wedi galw am etholiad rhanbarthol newydd i’w gynnal ar Ragfyr 21.

Mae cyn-arlywydd Catalwnia, Carles Puigdemont a phedwar aelod o’i Gabinet yn parhau i fod ar ffo ym Mrwsel, lle maen nhw’n ymladd unrhyw ymgais i’w harestio.

Mae wyth aelod o’r Cabinet a dau ymgyrchydd eisoes wedi cael eu hanfon i’r carchar yn Sbaen.

Mae Carme Forcadell yn parhau i fod yn llywydd ar y senedd, gan arwain comisiwn o ddau ddwsin o swyddogion yn ystod y cyfnod hyd at yr etholiad fis nesaf.